Trawsnewidiad perffaith ar gyfer y swyddfa
21/06/23
21/06/23
Mae Just Perfect Catering, un o denantiaid Business in Focus yng Nghanolfan Fenter Tondu wedi dadorchuddio eu swyddfa newydd, sydd wedi ei thrawsnewid yn llwyr! Roedd y gwaith adnewyddu yn cynnwys dodrefn ergonomig newydd o safon uchel, goleuadau newydd o’r radd flaenaf, côt hyfryd o liw a phrif wal nodweddiadol.
Maent wedi bod yn denant ers 2012, ac maent yn ddiweddar wedi dathlu eu 13eg mlynedd mewn busnes. Fel cwmni sy’n arwain yn y maes arlwyo cytundebol ac sy’n darparu gwasanaethau arlwyo yn y gweithle, mae enw da’r busnes yn tyfu ac yn ehangu’n barhaus. Wrth fyfyrio ar uchelgeisiau’r cwmni, bu iddynt benderfynu bod lles y tîm yn flaenoriaeth, ac mi benderfynon nhw fuddsoddi mewn adnewyddu eu swyddfa yng Nghanolfan Fenter Tondu.
Bydd y swyddfa newydd yn ehangu amgylchedd gwaith y tîm, ac yn creu awyrgylch ysgogol, fydd yn cynyddu eu cynhyrchiant. Cynhaliwyd ymchwil er mwyn penderfynu ar y lliw gorau er mwyn cynyddu lles y gweithwyr, gyda’r nod o helpu’r tîm i deimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.
Dywedodd Louise Owens, rheolwr gyfarwyddwr Just Perfect Catering:
“Mae lles a chyfforddusrwydd ein gweithwyr yn hollbwysig i dîm rheoli JPC. Yn syml, mae gofalu am ein gweithwyr, ac am eu budd gorau, yn hybu morâl, sydd yn ei dro yn hybu cymhelliant a chynhyrchiant. Wedi’r cwbl, mae gweithwyr eisiau teimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac eisiau mwynhau eu gweithle.”
Mae buddsoddi yn ein cyflogeion yn siŵr o wella enw da’r cwmni, gan arwain at fwy o gyfleoedd gyda chleientiaid a chwsmeriaid, a gwthio Just Perfect Catering i fod y cwmni gorau y gallai fod.
Fel landlord, mae Business in Focus yn annog ei denantiaid i wneud y gorau o’u gweithle. Maent yn cynnig ystod eang o swyddfeydd modern ac unedau masnachol diwydiannol ledled Cymru, gyda thelerau hyblyg a heb unrhyw ffioedd gweinyddol na chostau cudd.