Parc Navigation, Abercynon, CF45 4SN
Mae Park Navigation yn cynnig lleoliad cyfleus iawn yn fasnachol, yn union gerllaw ffordd ddeuol yr A470, tua 10 milltir i’r gogledd o Gaerdydd a 10 milltir i’r de o Ferthyr Tudful.
Mae’n hawdd cyrraedd y safle naill ai mewn car preifat neu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae gorsaf reilffordd Abercynon tua 5 munud i ffwrdd ar droed a gyda gwasanaethau yn rhedeg bob oddeutu 20 munud. Mae llwybr gwasanaeth bws cyhoeddus rheolaidd hefyd yn rhedeg yn agos at y safle.
Mae gofod swyddfa ar gael ym mhob un o’r tri adeilad o 250 troedfedd sgwâr hyd at adain gyfan o tua 4,800 troedfedd sgwâr. Mae lefelau rhentu yn hynod gystadleuol ac mae deiliadaeth ar gael ar delerau 1 mis ‘hawdd rhentu a hawdd gadael’.