Swyddfeydd Modern Cynllun Agored
Ystafell swyddfa fodern cynllun agored manyleb uchel, sydd wedi’i thymheru’n llawn ac wedi’i lleoli mewn datblygiad y mae galw mawr amdano.
Ystafell swyddfa fodern cynllun agored manyleb uchel, sydd wedi’i thymheru’n llawn ac wedi’i lleoli mewn datblygiad y mae galw mawr amdano.
Mae Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam yn elwa o Uned Gydgysylltu ar y safle sy’n darparu nifer o gyfleusterau i ddeiliaid gan gynnwys dau swyddog diogelwch â gorsaf barhaol, Camerau Cylch Cyfyng a sawl fforwm busnes. Mae’r Uned Gydgysylltu hefyd yn ceisio annog cyswllt busnes i fusnes ar y safle, er budd y deiliaid.
Wedi’i adeiladu i fanyleb uchel, wedi’i drefnu yn arddull y cwrt ac yn darparu cyfleusterau i bobl anabl ynghyd â cheginau cymunedol er hwylustod i’r deiliaid; Mae’r ddwy ystafell yn darparu man busnes hynod fawreddog a phroffesiynol i denantiaid, o fewn amgylchedd ysgafn ac eang gyda’r fantais o barcio dynodedig ar y safle i denantiaid ac ymwelwyr.
Fel gyda phob safle, gallwch elwa ar delerau hyblyg a syml, gyda landlord sy’n sefydlog yn ariannol a’i brif egwyddor yw cefnogi busnesau yng Nghymru.
Mae Parc Busnes Wilkinson wedi’i leoli ar Ffordd De Clywedog, ar berimedr de-orllewinol Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, sydd tua 3 milltir i’r dwyrain o ganol tref Wrecsam. Mae cysylltiadau mynediad gwych ar hyd yr A525 a’r A434 a fydd yn cael eu gwella ymhellach gyda ffordd gyswllt arfaethedig Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam. Mae ffordd ddeuol yr A483 tua 3 milltir i’r gorllewin sy’n darparu mynediad i Gaer, tua 12 milltir i’r gogledd, a hefyd Gwibffordd Gogledd Cymru yr A55, yr M53 a’r M56.