Swyddfeydd traddodiadol ac unedau diwydiannol

Mae adeiladau’r safle hwn yn draddodiadol ond eto’n fodern, yn cynnwys 15 o swyddfeydd a 32 o unedau diwydiannol.

Canolfan Fenter Pentrebach

Mae’r adeiladau ar y safle hwn wedi’u hadeiladu o frics a chladin traddodiadol ond modern ac maent yn cynnwys adeilad deulawr sy’n cynnig 15 o Swyddfeydd ynghyd â 32 o Unedau Diwydiannol mewn blociau, yn y cefn.

Mae maint swyddfeydd o 90 troedfedd sgwâr – 650 troedfedd sgwâr ac Unedau Diwydiannol o 500 troedfedd sgwâr – 2,000 troedfedd sgwâr. Mae gan unedau diwydiannol ddrysau caead rholio i fyny a throsodd ynghyd â drysau staff blaen a chefn ar wahân.

Parc Diwydiannol Merthyr, Merthyr Tudful, CF48 4DR

Mae Canolfan Fenter Pentrebach yn rhan o Barc Diwydiannol Merthyr mwy ac mae wedi’i lleoli lai na milltir o’r A470, (Ffordd Ddeuol o Ferthyr i Gaerdydd), tua milltir o Ganol Tref Merthyr Tudful.

Ceir mynediad i’r M4 trwy Gyffordd 32, sydd 12 milltir i’r De ar hyd yr A470 yn Nhongwynlais. Mae cyswllt A465 Blaenau’r Cymoedd â Chanolbarth Lloegr, (M50/M5), 2 filltir i’r gogledd yn Nowlais.

Mae’n hawdd cyrraedd y safle mewn car preifat neu ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mae gorsaf drenau Pentrebach, sydd ar y rheilffordd rhwng Caerdydd a Merthyr, bum munud i ffwrdd ar droed.

Yn chwilio am rywbeth penodol?

Rwy’n chwilio am
Help gyda cyllid
Rwy’n chwilio am
Cyngor busnes