Podlediad: Cyfleuster Prawf Fasnachu yn Hwlffordd yn Cynnig Cyfle i Entrepreneuriaid Tymhorol 

13/07/22

Gwrandewch ar y podlediad llawn ar Business News Wales

Efallai ei fod yn gynnar iawn i siarad am y Nadolig, ond nawr yw’r amser i fanteisio ar y cyngor a’r cymorth sydd ar gael yn Hwlffordd fel bod eich busnes yn barod am y Nadolig. 

Mae’r Nadolig yn dymor gwyliau ble mae’r llawer yn meddwl am hwyl, mynd ar wyliau, ac ymlacio gartref. Ond mae rhai entrepreneuriaid yn gweld cyfnod yr ŵyl fel amser proffidiol i gychwyn busnes. 

Siaradodd Gareth Thomas, Cydlynydd Hwb Menter Business in Focus gyda Business News Wales am y cyfleuster gofod a rennir yn Hwlffordd, sydd wedi ei greu i fod o gymorth i entrepreneuriaid lleol.

Gofod a Rennir yn Business in Focus

Gofod a Rennir yw’r lle gorau i weithio ar eich syniadau a chydweithio â phobl o’r un anian a rhoi’r cyfle i’ch busnes newydd fynd â chynnyrch i’r farchnad mewn safleoedd siopau dros dro blaenllaw.

Gyda nifer o fusnesau yn newid i weithio o bell neu weithio cyfunol, Gofod a Rennir yw’r ateb delfrydol yn lle gweithio o fwrdd eich cegin, ystafell wely sbâr neu i unrhyw fusnes sydd angen cylchdroi desgiau staff mewn swyddfeydd llai. P’un a ydych yn chwilio am ddesg sengl unwaith y mis neu ychydig o ddesgiau ar gyfer eich tîm ar rota wythnosol, mae gennym ofod a phecyn sy’n addas i’ch anghenion. Mae ein pecynnau yn agored i bawb yn y gymuned gan gynnwys busnesau cyn cychwyn, busnesau cychwynnol a busnesau sefydledig. 

Gwrandewch ar y podlediad llawn ar Business News Wales