Prif Weithredwr – Business in Focus
Cyn ymgymryd â’i rôl arwain yn Busnes mewn Ffocws, bu Phil mewn swyddi arwain yn y fyddin a’r sector elusennau. Gwasanaethodd yn y Fyddin Brydeinig am fwy na 26 mlynedd yn y Cymry Brenhinol, lle cafodd brofiad yn bennaf o swyddi gweithredol a hyfforddiant, yn ogystal â gweithrediadau deallusrwydd a seicolegol. Daeth cyfnod Phil yn y fyddin i ben gyda swydd cynllunio a chyflawni Cyfathrebiadau Strategol ar gyfer cyfraniad y Weinyddiaeth Amddiffyn at Gemau Olympaidd 2012, ymyrraeth Libia ac yng nghoffadwriaeth 30 mlynedd ers rhyfel y Falklands.
Ers gadael y fyddin yn 2012, mae Phil wedi bod yn bennaeth y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru, cyn ymgymryd â’i rôl flaenorol fel Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru ym mis Mai 2016.
Mae Phil yn mwynhau’r her o arwain gyda dwy egwyddor sylfaenol wrth wraidd ei ddull arwain – ymddiriedaeth a grymuso, ac mae’n credu bod diwylliant bob amser yn trechu strategaeth.
Y tu hwnt i’r gwaith, mae Phil yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth a materion cyfoes, yn cefnogi tîm rygbi a phêl-droed Cymru, a thîm criced Lloegr. Mae’n cadw’n heini drwy gerdded a beicio ond ynghyd â drama wleidyddol ddofn neu sioe ddogfen, nid oes cywilydd ganddo ddweud ei fod hefyd yn hoff iawn o ‘Strictly’.
Hawlfraint Busnes Mewn Ffocws 2020