Gwerth dros £800 miliwn o fenthyciadau wedi’u rhoi i ddarpar entrepreneuriaid
Gyda gwerth dros £800 miliwn o fenthyciadau wedi’u rhoi i ddarpar entrepreneuriaid, sicrhewch eich cyllid heddiw gyda Benthyciadau Cychwyn Busnes.
Mae yn brosiect Cynhwysiant Gweithredol newydd gan CGGC sy’n cefnogi unigolion sy’n profi anawsterau ac yn wynebu rhwystrau wrth geisio cymorth gyda’u syniad busnes.
Bydd y fenter newydd hon yn galluogi unigolion 25oed+ sy’n profi anawsterau a rhwystrau i ystyried llwybr arall, a siarad am syniadau busnes, gan ddysgu beth sydd ei angen i wneud syniad busnes yn llwyddiant. Bydd y cyfranogwyr yn cael cymorth ac arweiniad cyfrinachol trwy gydol eu taith.
Nod y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol yw gwneud cyfraniad sylweddol tuag at godi lefelau cyflogaeth (gan gynnwys hunangyflogaeth) a lleihau anweithgarwch economaidd yng Nghymru.
Mae’r gronfa’n gweithredu o dan Flaenoriaeth 1 yr ESF: Mynd i’r Afael â Thlodi Trwy Gyflogaeth Gynaliadwy, ac yn benodol, Amcan 2, sef cynyddu cyflogadwyedd pobl 25+ sy’n economaidd anweithgar neu’n ddi-waith ers tro, a chanddynt rwystrau cymhleth i gyflogaeth.
Mae Carmel Barry wedi helpu pobl i sefydlu busnesau llwyddiannus a chynaliadwy ers 40 mlynedd. I ddechrau, roedd hyn yn rhan o’i rôl ym Manc Natwest, lle bu’n gweithio am 24 blynedd, gan ddod yn Uwch Reolwr Busnes yn un o ganghennau mwyaf Cymru, gyda staff o dros 80.
Sefydlodd Carmel ei busnes ymgynghori ei hun yn 2000, gan ddarparu cymorth i fusnesau oedd yn ceisio caffael benthyciad cyfalaf, ysgrifennu tendrau a chynigion, yn ogystal â darparu cyrsiau hyfforddi. Cychwynnodd weithio ar gontractau cymorth i fusnesau Llywodraeth Cymru, gydag amrywiaeth o ddarparwyr yn cynnwys Menter Casnewydd a Gwent, Canolfan Fusnes, Siambr Fasnach De Cymru, ac ar hyn o bryd, Busnes Cymru. Dywed fod y prosiect newydd hwn yn rhoi cyfle iddi gyflawni ei gwaith mwyaf boddhaus.
Defnyddio ein profiad o brosiectau blaenorol, cyrraedd y grŵp targed a’u tywys ar hyd llwybr anffurfiol ond strwythuredig – ar sail un i un yn bennaf, ond, lle’n bosib, trwy waith grŵp a chysylltu â rhai sy’n esiampl i eraill, ynghyd â defnyddio astudiaethau achos.
A fyddech chi efallai’n cael budd o wybodaeth a phrofiad helaeth Carmel ar gyfer prosiect yr hoffech chi weithio arno mewn partneriaeth?
The project has been supported by the European Social Fund through the Welsh Government.
Gyda gwerth dros £800 miliwn o fenthyciadau wedi’u rhoi i ddarpar entrepreneuriaid, sicrhewch eich cyllid heddiw gyda Benthyciadau Cychwyn Busnes.
AFC Hwlffordd yn lansio ‘Y Nyth’ – siop un stop i gefnogwyr, busnesau ac aelodau o’r gymuned gael gwybodaeth am raglen gymunedol y clwb yn Gofod a Rennir Hwlffordd! Bydd Y Nyth yn cael ei lansio ddydd Sadwrn, 13 Awst gydag agoriad swyddogol yn dechrau am 10.30am yn y siop dros dro yn y Gofod […]
Aeth Gareth Jones, Pennaeth Eiddo yn Business in Focus, i gwrdd â Business News Wales i drafod yr effeithiau a gafodd Covid ar eu tenantiaid a sut y gwnaethant eu cefnogi drwy’r gofynion newidiol yn ogystal â’u cefnogi i weithio gartref.