Mae goleuadau’r Nadolig wedi’u goleuo. Mae’r tymheredd yn bendant yn dechrau oeri. Nawr mae'n bryd i chi ddechrau, neu orffen, eich siopa Nadolig. Yn ffodus, gallwch ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch yn ein siop fflach newydd yn Rhodfa Santes Catrin.
Bydd Pop-Up Caerfyrddin, a fydd yn agor ar 27 Tachwedd, yn arddangos 21 busnes lleol dros gyfnod o bum wythnos. Mae ystod eang o opsiynau rhoddion ar gael, a gallwch hyd yn oed drefnu ymweliad â Groto Siôn Corn. Wedi’i leoli yn yr adeilad Lleoliad a Rennir, bydd y siop fflach yn rhoi cyfle i fusnesau hen a newydd brofi eu cynnyrch ac mae’n cynnig profiad masnachu sy'n seiliedig ar gomisiwn go iawn.
Wedi’i gynnal mewn partneriaeth â Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin a Lleoliad a Rennir, dyma’r safle profi masnachu cyntaf i ni yng Nghaerfyrddin. Ein nod yw ategu gweithgareddau Nadoligaidd eraill o amgylch canol tref Caerfyrddin, yn ogystal â dathlu busnesau bach Cymreig.
Dywedodd Lisa Jones, o Pop-Up Caerfyrddin: “Mae gweithio â Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn Lleoliad a Rennir Caerfyrddin wedi bod yn wych. Mae wedi ein galluogi ni, fel busnes newydd, i gynnig profiad masnachu go iawn i eraill. Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd i bawb, ac rwy’n credu bod rhaid i ni gymryd risgiau a manteisio ar gyfleoedd. Yn bendant, dyma gyfle i ni gael profiad canol tref.
“Rydym wedi gweithio gyda’r Hwb yn y gorffennol, pan wnaethom agor ein caffi, Diod, yn Llandeilo, felly mae’n wych archwilio cyfleoedd masnachu yn ogystal â bod yn y sector lletygarwch. Mae’r busnesau rydym yn gweithio â nhw yn hynod gefnogol ac yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r profiad.”
Ychwanegodd Angharad Harding, Rheolwr Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin: “Fel Hwb, rydym wrth ein bodd i fod yn rhoi cyfle i Lisa ac Aled Jones agor Siop Fflach Caerfyrddin, sy’n cynnig profiad masnachu i 21 busnes mewn lleoliad canol tref. Mae Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn cynnig cymorth busnes i fusnesau hen a newydd, a dyma ond un enghraifft o nifer rydym wedi eu cefnogi dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”
Cyn iddo agor, cafodd y siop ymweliad gan Faer Caerfyrddin, y Cynghorydd Gareth John, a dywedodd: “Roedd yn bleser cwrdd ag Angharad a Lisa yn yr adeilad Lleoliad a Rennir yn Rhodfa Santes Catrin, a chael gwybod am y cymorth a’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig i unigolion allu sefydlu a threialu eu cynnyrch a gwasanaethau mewn amgylchedd masnachu bywyd go iawn. Mae rhoi’r cyfle hwn i 21 busnes lleol, mewn lleoliad cyfleus yn ystod y cyfnod hollbwysig cyn y Nadolig, yn fenter arbennig, a fydd."
16
Mehefin
2022
|
30
Mai
2022
|
25
Mai
2022
|
24
Mai
2022
|
23
Mai
2022
|
16
Mai
2022
|
13
Mai
2022
|
30
Mawrth
2022
|
21
Ionawr
2022
|
21
Rhagfyr
2021
|
Hawlfraint Busnes Mewn Ffocws 2020