Mae’r Hwb Menter yn dychwelyd i danio twf mewn busnes yn Sir Gaerfyrddin

21/12/23

Ar ôl seibiant byr, mae dychweliad hirddisgwyliedig Hwb Menter Sir Gaerfyrddin wedi dod – ac yn ôl yr argoelion, bydd yn well nag erioed. Diolch i gymorth ariannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, bydd yr Hwb yn ailagor ei ddrysau er mwyn parhau â’i genhadaeth – sef meithrin llwyddiant entrepreneuraidd yn y gymuned leol.

Bu fersiwn flaenorol yr Hwb yn adnodd hollbwysig i fusnesau yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnig cyngor a chymorth arbenigol a gyfrannodd at lwyddiant nifer o fentrau. Llwyddodd yr Hwb i ymgysylltu â bron i 2,000 o drigolion Sir Gaerfyrddin; ac er ei fod wedi cau dros dro, gyda chymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin mae’r Hwb yn barod i ailafael yn ei rôl, sef sbarduno twf busnesau.

Dyma nodweddion hollbwysig Hwb Menter Sir Gaerfyrddin ar ei newydd wedd:

  1. Cyngor arbenigol i fusnesau – Mae’r Hwb wedi ymrwymo o hyd i gynnig cyngor o’r radd flaenaf i fusnesau, gan sicrhau bod modd i entrepreneuriaid gael gafael ar yr wybodaeth a’r arweiniad angenrheidiol er mwyn llwyddo
  2. Digwyddiadau a gweithdai – Bydd llu o ddigwyddiadau a gweithdai llawn gwybodaeth yn cael eu cynnal, gyda’r bwriad o rannu craffter a sicrhau bod busnesau’n parhau i fod ar flaen y gad
  3. Rhwydweithio – Nid rhywle i gael cyngor busnes yn unig yw’r Hwb – mae’n gymuned lewyrchus lle gall entrepreneuriaid gysylltu, cydweithio a ffynnu
  4. Lle ar gyfer rhannu mannau gwaith – Bydd ein lle poblogaidd ar gyfer rhannu mannau gwaith yn ailagor, gan gynnig amgylchedd dynamig ar gyfer arloesi a chydweithio
  5. Man masnachu prawf – Pleser yw ailagor ein man masnachu prawf a rhoi cyfle i fusnesau brofi eu cynhyrchion ar stryd fawr brysur Caerfyrddin

Pa un a ydych yn berchennog busnes sydd wedi hen ennill ei blwyf neu’n ddarpar entrepreneur, mae Hwb Menter Sir Gaerfyrddin yn eich gwahodd i fod yn rhan o’r bennod gyffrous hon. Gwych o beth yw cael dychwelyd at gefnogi cymuned fusnes lewyrchus Sir Gaerfyrddin.

Cymerwch gipolwg ar www.carmarthenshireenterprisehub.co.uk