Mae Menter Blaenau Gwent yn brosiect Cynhwysiant Gweithredol newydd gan CGGC sy'n cefnogi unigolion sy'n profi anawsterau ac yn wynebu rhwystrau wrth geisio cymorth gyda'u syniad busnes.
Bydd y fenter newydd hon yn galluogi unigolion 25oed+ sy'n profi anawsterau a rhwystrau i ystyried llwybr arall, a siarad am syniadau busnes, gan ddysgu beth sydd ei angen i wneud syniad busnes yn llwyddiant. Bydd y cyfranogwyr yn cael cymorth ac arweiniad cyfrinachol trwy gydol eu taith.
Mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd eisiau troi eu diddordeb mawr neu hobi yn fenter newydd bosib.
Mae'r unigolyn wrth galon y prosiect, felly, mae Menter Blaenau Gwent yn helpu'r rhai sydd yn y camau cyntaf o ddatblygu eu syniadau, ond sy'n profi anawsterau ac yn wynebu rhwystrau wrth ddatblygu eu syniad busnes.
I fod yn gymwys ar gyfer y prosiect, bydd y rhai sy’n cymryd rhan naill ai’n:
ac yn ceisio goresgyn nifer o heriau a rhwystrau sy’n gwneud gwaith/swyddi traddodiadol yn anodd iddynt ar hyn o bryd.
Gall hyn gynnig opsiwn realistig sy’n galluogi pobl i:
Cynghorydd Menter - Carmel Barry
Mae Carmel Barry wedi helpu pobl i sefydlu busnesau llwyddiannus a chynaliadwy ers 40 mlynedd. I ddechrau, roedd hyn yn rhan o'i rôl ym Manc Natwest, lle bu'n gweithio am 24 blynedd, gan ddod yn Uwch Reolwr Busnes yn un o ganghennau mwyaf Cymru, gyda staff o dros 80.
Sefydlodd Carmel ei busnes ymgynghori ei hun yn 2000, gan ddarparu cymorth i fusnesau oedd yn ceisio caffael benthyciad cyfalaf, ysgrifennu tendrau a chynigion, yn ogystal â darparu cyrsiau hyfforddi. Cychwynnodd weithio ar gontractau cymorth i fusnesau Llywodraeth Cymru, gydag amrywiaeth o ddarparwyr yn cynnwys Menter Casnewydd a Gwent, Canolfan Fusnes, Siambr Fasnach De Cymru, ac ar hyn o bryd, Busnes Cymru. Dywed fod y prosiect newydd hwn yn rhoi cyfle iddi gyflawni ei gwaith mwyaf boddhaus.
Dywedodd Carmel; "Mae'r prosiect Cynhwysiant Gweithredol newydd, cyffrous hwn gan CGGC yn gyfle gwych i estyn allan a darparu cefnogaeth, arweiniad a help i bobl ym Mlaenau Gwent sy'n wynebu heriau a rhwystrau, ac y gallai eu busnes eu hunain fod yn gam nesaf perffaith iddynt".
"Nid oes rhaid i chi fod â syniad eto - efallai eich bod eisiau ychydig o help i feddwl am beth rydych yn mwynhau ei wneud, beth rydych yn dda ynddo, a'n gadael ni i'ch helpu a'ch arwain i weld a all hyn weithio i chi".
Cysylltwch am sgwrs i weld a fydd y prosiect hwn yn eich helpu chi.
Cysylltwch â Carmel – CarmelB@businessinfocus.co.uk
Ffôn Symudol - 07989 505003
Neu ffoniwch y brif swyddfa ar – 01656 868545
Hawlfraint Busnes Mewn Ffocws 2020