Mae Hybiau Menter Ffocws yn rhan o Raglen 3 blynedd sydd wedi ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Bydd yr hybiau’n defnyddio’r buddsoddiad o £4miliwn i hyrwyddo entrepreneuriaeth, cynnig cymorth busnes a chreu profiad bywiog yn seiliedig ar gymuned ar gyfer busnesau newydd posib ac entrepreneuriaid sydd yn eu camau cynnar.

Dylunnir rhaglen o ddigwyddiadau a gweithdai amrywiol i adeiladu rhwydwaith o ddysgu cymunedol, wrth gefnogi anghenion unigol cleientiaid, ar gael drwy ystod o gyngor, cefnogaeth a digwyddiadau busnes.

Bydd y gefnogaeth ddwys, sy’n seiliedig ar ddull deor, yn caniatáu i’r hybiau ddarparu syniadau marchnadol ac arloesol i lansio neu ddatblygu busnesau newydd a chynaliadwy, gan greu swyddi gwell yn lleol a chymuned hwb newydd, ddynamig.

Mae ein hybiau yn croesawu pob cleient sydd ar unrhyw gam o’u taith drwy:

Os hoffech ddysgu mwy am ein Hybiau Menter, neu gysylltu i drefnu cyfarfod gydag un o Reolwyr yr Hwb, ewch i wefan Hybiau Menter Ffocws yma