Mae Busnes mewn Ffocws yn cynnig amrywiaeth o gontractau Llywodraeth Cymru a Chyngor Lleol, ac felly mae gennym fynediad at yr holl ddigwyddiadau busnes newydd yng Nghymru i’ch helpu chi i ddeall beth sydd angen ei wybod arnoch i ddatblygu eich syniad busnes, dechrau a thyfu eich busnes. Edrychwch ar bob rhaglen i weld beth sydd ar y gweill a all eich cefnogi chi ar eich taith fusnes, waeth lle rydych chi wedi cyrraedd – ac mae’r cyfan am ddim.
Busnes Cymru – Prif Wasanaeth Lywodraeth Cymru sy’n darparu cefnogaeth a chyngor diduedd ac annibynnol i bobl sy’n dechrau, rhedeg a thyfu busnes yng Nghymru.
Hybiau Menter Ffocws – Dylunnir rhaglen o ddigwyddiadau a gweithdai amrywiol i adeiladu rhwydwaith o ddysgu cymunedol, wrth gefnogi anghenion unigol cleientiaid, ar gael drwy ystod o gyngor, cefnogaeth a digwyddiadau busnes.
Lleolir yr Hybiau ym Mhowys a Chaerfyrddin
Syniadau Mawr Cymru – Yn cefnogi y genhedlaeth nesaf o fentrwyr ifanc yng Nghymru, trwy gynnal digwyddiadau ysbrydoledig, cyngor un-i-un a phenwythnos preswyl dros dri diwrnod.
Busnes Cymdeithasol Cymru – Yn darparu gwasanaethau ymgynghoriaethau arbenigol i fentrau cymdeithasol, i helpu nhw cyrraedd eu nod.
Yn ogstal â gwasanaethau am ddim, rydym hefyd yn cynnig Ymgynghoriaeth Fasnachol: rydym yn darparu datrysiadau ymgynghoriaeth masnachol penodol i fodloni eich anghenion busnes. Ffoniwch ni ar 01656 868545 neu cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.