Benthyciadau Dechrau Busnes i gynorthwyo entrepreneuriaid sy’n ferched i wireddu eu breuddwydion!

31/08/22

Gyda thraean o entrepreneuriaid y DU yn ferched, mae Benthyciadau Dechrau Busnes yn annog mwy o ferched i gael mynediad i arian i ddechrau eu busnes. Mae ymchwil yn dangos bod y pandemig wedi cael effaith fwy anghymesur ar ferched na dynion gan mai’r diwydiannau a arweinir gan ferched a effeithiwyd fwyaf arnynt yn ystod y pandemig.

Er bod astudiaethau yn dangos bod twf yn y nifer o ferched sy’n dewis dechrau busnesau heddiw, nid yw’n llwybr hawdd o bell ffordd. Mae Business in Focus wedi cynorthwyo nifer o ferched i dderbyn arian a chychwyn busnesau eu breuddwydion. Cysylltodd Laura Mallows, sylfaenydd Mallows Beauty, brand gofal croen sy’n canolbwyntio ar hunanofal a llesiant meddwl, â Business in Focus i wneud cais am Fenthyciad Dechrau Busnes. Bu Steve Hammond, Ymgynghorydd Benthyciadau Dechrau Busnes, o gymorth i Laura gyda’i chais. Ar ôl trafod ac adolygu’r cynllun yn ofalus gyda Laura, rhoddodd Steve gyngor ar y newidiadau oedd angen eu gwneud er mwyn sicrhau bod ei chais am gyllid i lansio busnes ei breuddwydion yn llwyddiannus.

“Roedd Steve yn wych. Bu yno i mi bob awr o’r dydd ac roedd ei gefnogaeth yn amhrisiadwy. Roedd yn hynod ganmoliaethus ynghylch fy nghynllun busnes, a helpodd i fagu fy hyder ar fy nhaith dechrau busnes,” meddai.

Mae gweld merched yn llwyddo ar eu taith i sicrhau cyllid ar gyfer eu busnes yn hwb anferth i ferched eraill, gan eu hannog i ddilyn yr hyn sy’n mynd â’u bryd a dechrau eu mentrau annibynnol. Rydym yn byw mewn cyfnod ble’r ydym yn gweld cynnydd mewn merched yn cymryd y cam cyntaf i ddilyn eu breuddwydion ac rydym yn falch o allu rhoi cymorth i fwy o entrepreneuriaid sy’n ferched.

Mae Benthyciadau Dechrau Busnes yn darparu cymorth ariannol o rhwng £500 a £25,000 i entrepreneuriaid. Un o fanteision mwyaf gwneud cais am Fenthyciad Dechrau Busnes yw cyfradd llog sefydlog isel ar 6.19% APR a chyfnod ad-dalu hyd at 5 mlynedd.

Mae Business in Focus yn Bartner Swyddogol i’r Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes ac mae gan i unrhyw un sy’n gwneud cais am Fenthyciad Dechrau Busnes drwy Business in Focus fynediad i gynigion busnes unigryw gan Ymgynghorwyr Busnes arbenigol.

Wedi’i weinyddu gan Fanc Busnes Prydain, mae Benthyciad Cychwyn Busnes yn gynllun a gefnogir gan y llywodraeth sy’n darparu benthyciadau llog isel, ad-daladwy. Maent ar gael i bobl sy’n meddwl dechrau busnes neu fusnesau o dan dair oed yng Nghymru, sydd angen cymorth ariannol er mwyn datblygu a thalu costau gweithredu. Yn wahanol i fenthyciad busnes, mae hwn yn fenthyciad personol ansicredig sydd ar gael ar gyfer unigolion dros 18 oed yn unig. Mae Benthyciadau Dechrau Busnes yn darparu cyfle i ferched gael mynediad i arian a rhoi’r hyder iddynt wireddu eu syniad busnes.