Podlediad: Dyfodol Ffocws – Darparu’r Gronfa Adfywio Cymunedol

07/12/22

Gwrandewch ar y podlediad llawn ar Business News Wales

Siaradodd Newyddion Busnes Cymru ag Alison Hitchen, Rheolwr y tîm Dyfodol Ffocws, am y tîm sydd wedi’i ffurfio o’r newydd a chyflawniadau presennol y cynllun.

Mae Dyfodol Ffocws yn fenter Business in Focus sy’n rhan o Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU. Datblygwyd y prosiect i gefnogi pobl leol i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder er mwyn datblygu eu gweithgareddau entrepreneuraidd ymhellach. Trwy’r rhaglen hon, mae pobl sy’n awyddus i ddechrau eu busnes eu hunain yn cael mynediad at gymorth ariannol ac arweiniad un i un.

Mae cannoedd lawer o unigolion a chwmnïau eisoes wedi elwa o gefnogaeth a ddarparwyd gan y cynllun. Boed trwy ddod o hyd i waith, datblygu busnes, hyfforddiant gwydnwch, neu gyllid, mae’r cynllun wedi dod yn wasanaeth allweddol i lawer ar draws gogledd, dwyrain, de a gorllewin Cymru.  

Os ydych eisiau dysgu mwy am y cynllun a sut y gall y tîm Dyfodol Ffocws anelu at helpu mwy o gyfranogwyr yn y dyfodol, ewch i www.businessinfocus.co.uk

Gwrandewch ar y podlediad llawn ar Business News Wales