Podlediad: Dyfodol Eiddo Busnes
11/08/22
11/08/22
Gwrandewch ar y podlediad llawn ar Business News Wales
Aeth Gareth Jones, Pennaeth Eiddo yn Business in Focus, i gwrdd â Business News Wales i drafod yr effeithiau a gafodd Covid ar eu tenantiaid a sut y gwnaethant eu cefnogi drwy’r gofynion newidiol yn ogystal â’u cefnogi i weithio gartref.
Pan ddechreuodd y pandemig Covid, gweithio gartref wnaeth y rhai a allai wneud hynny. Yna, pan ddechreuodd mesurau leddfu, daeth gweithio hybrid, lle gall staff weithio o swyddfa ac o bell, yn normal newydd.
Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i annog 30% o weithwyr i weithio gartref, neu fod o leiaf o fewn pellter cerdded o’u gweithle, ac mae Business in Focus yn gweithio i gefnogi hyn ac yn helpu busnesau i fod yn hyblyg o ran eu gweithle, gan ganiatáu iddynt addasu a newid yn gyflym.
Drwy gael mannau gweithio mewn lleoedd ledled Cymru, mewn lleoliadau fel Tonypandy, Hwlffordd, a Wrecsam, mae’n galluogi gweithiwyr i gerdded a beicio i fannau gwaith ac yn dileu’r angen i gymudo i ddinasoedd mawr fel Caerdydd ac Abertawe. Mae gan Business in Focus sawl eiddo ledled y wlad a ddefnyddir ar gyfer busnesau bach a chanolig, gan gynnwys eiddo rhannu gweithle.
Yn ogystal â chynnig mannau gwaith, mae Business in Focus yn cynnig cymorth i’w tenantiaid drwy gynlluniau fel cynnig benthyciadau cychwyn busnes a chyngor busnes. Gan ffynnu ar fod yn fenter gymdeithasol, mae llawer o denantiaid Business in Focus yn cydweithio â’i gilydd ac yn creu cymuned gydweithio gadarnhaol a chefnogol.
Gwrandewch ar y podlediad llawn ar Business News Wales