Dathlu Busnesau Newydd Cymreig: The Wild Moon Distillery

27/02/23

Fel rhan o ddathliad Business in Focus yr wythnos hon o entrepreneuriaid Cymreig, rydym yn falch o gyflwyno The Wild Moon Distillery, sy’n cael ei redeg gan Jade Garston yn Wrecsam, gogledd Cymru.

Dechreuodd Jade Garston ei busnes yn gwerthu gwirodydd yn 2016 gan iddi gredu bod ei chynnyrch yn dod â phobl ynghyd ac yn adrodd stori. Mae The Wild Moon Distillery hefyd yn cael ei adnabod am ddarparu gwasanaeth llogi bar ar gyfer partïon gardd ar thema gwrachod, priodasau cyfriniol a gwyliau. Mae casgliad gwirodydd y ddistyllfa yn seiliedig ar lên gwerin Cymru a thraddodiadau paganaidd Celtaidd. I gyd-fynd â thraddodiadau, mae The Wild Moon Distillery yn defnyddio perarogleuon naturiol ac yn unioni’r cynhyrchiad gwirodydd â’r cylchoedd lleuadol. Dechreuodd Jade wasanaeth bar symudol ar gyfer digwyddiadau a buan y sylweddolodd ar y cyfle i gyflenwi alcohol a gynhyrchwyd yn lleol mewn priodasau. Bu’n gweithio’n wreiddiol â distyllfa arall i ddatblygu ei chynnyrch cyn dechrau cynhyrchu ei rỳm, jin a fodca ei hun a mynd ati i werthu ar-lein. Heddiw, mae’r holl wirodydd a gynhyrchir yn The Wild Moon Distillery yn cael eu creu â llaw yn y ddistyllfa yn Wrecsam ac maent yn adnabyddus am eu blas gwirioneddol wledig.

Pan oedd Jade yn awyddus i ehangu ei busnes, roedd angen cymorth arni a phenderfynodd gysylltu â Busnes Cymru. Gofynnodd Jade am gymorth y cynghorwyr busnes arbenigol i gyflwyno strwythur ac i’w helpu i greu cynllun busnes a fyddai’n gwneud yn fawr o’i chryfderau. Yn ogystal, dyfeisiodd Jade strategaeth farchnata cyfryngau cymdeithasol a dadansoddiad llif arian ar gyfer ei busnes.

Pan holwyd hi am ei phrofiad, dywedodd Jade, “Roedd cysylltu â Busnes Cymru yn benderfyniad gwerth chweil i mi gan eu bod wedi fy annog i ddatblygu fy nghynllun a chenhadaeth busnes. Yn ogystal â hyn, cefais gymorth gan y cynghorwyr arbenigol i lunio polisi amgylcheddol a pholisi cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer fy musnes.”

Yn Business in Focus, ein nod yw adnabod talent yma yng Nghymru a dathlu busnesau newydd Cymreig. Os ydych yn dyheu am ddechrau busnes, rydym yma i’ch cefnogi chi.