Dathlu Busnesau Newydd Cymreig: Socialdice 

20/02/23

Pwy sydd ddim wrth eu boddau’n chwarae gemau bwrdd? Yn nathliad yr wythnos hon o Fusnesau Newydd Cymreig, mae Business in Focus yn falch o gael cyflwyno Chris Grove a Ryan Davies, a benderfynodd fynd â’u diddordeb brwd mewn gemau bwrdd gam ymhellach, gan agor caffi gemau bwrdd cyntaf Abertawe, sef Socialdice ar Wind Street.

Ar ôl byw yn Abertawe am flynyddoedd lawer, a chael eu hysbrydoli gan nosweithiau’n chwarae gemau gyda ffrindiau, fe wnaethant y penderfyniad i agor caffi lle allai pobl fynd i gymdeithasu a threulio nosweithiau’n chwarae gemau o dan yr unto. Mae Socialdice yn arbenigo hefyd mewn darparu diodydd a bwyd ffres o gynhwysion lleol. Maen nhw’n falch o allu darparu dewis o amrywiaeth fawr o opsiynau, sy’n addas i bawb.

Doedd taith Chris a Ryan at lwyddiant ddim yn fêl i gyd. Wrth chwilio am y lleoliad perffaith ar gyfer eu caffi, ymhlith yr holl rwystrau a ddaeth i’w rhan, doedden nhw ddim wedi rhagweld unrhyw beth mor ddifrifol â’r cyfnod clo. Bu rhaid i Chris a Ryan roi eu cynlluniau o’r neilltu, gan orfod disgwyl i’r cyfyngiadau godi cyn ailafael yn eu nod.

Ar ôl codi’r cyfyngiadau, fe ddaeth y ddau i’r penderfyniad y byddan nhw’n cysylltu â Busnes Cymru gyda’u cynllun busnes. Roedd Busnes Cymru’n argymell cwrs busnes rhithiol a oedd yn cynnwys testunau fel egwyddorion busnes, marchnata, rhagolygon llif arian, ynghyd â thestunau eraill a oedd yn eu helpu i ddeall y camau cyntaf ar gyfer dechrau busnes. Neilltuwyd cynghorydd busnes ar gyfer Chris a Ryan a aeth ati i’w helpu i feithrin hyder yn eu syniad, ac i’w cynorthwyo i lunio cynllun busnes manwl. Dywedasant, “Roedd ein cynghorydd o Busnes Cymru yn arbenigwr ar eiddo a roddodd gyngor gwych am sut i ddelio â landlordiaid, asiantiaid eiddo a chontractau prydlesu. Roedd hynny’n amhrisiadwy i ni!”

Os oes gennych freuddwyd i ddechrau eich busnes eich hun, gall Business in Focus eich cynorthwyo.