Dathlu Busnesau Newydd Cymreig: ORTIR Apothecari
06/03/23
06/03/23
Er mwyn dathlu entrepreneuriaid Cymreig yr wythnos hon, mae Business in Focus yn falch o gyflwyno Lisa Howarth, sylfaenydd ORTIR Apothecari. Fel tŷ persawr arbenigol a leolir yng ngorllewin Cymru, mae ORTIR Apothecari yn creu persawrau yn lleol ar eu fferm drwy gyfuno olewon wedi’u tynnu o blanhigion persawrus a gynhyrchwyd ar dir Cymreig.
Mae’r enw ORTIR, a lansiwyd ym mis Mai 2022, yn gyfuniad o’r geiriau Cymraeg ‘o’r tir’. Penderfynodd Lisa ar yr enw fel ffordd o gyfleu ychydig bach o Gymru yn cael ei chasglu ym mhob potel a chreu’r ymdeimlad o le gyda’i chynnyrch. Mae ORTIR Apothecari yn tyfu a distyllu perarogleuon allweddol i greu cyfuniadau unigryw o bersawr. Gwneir popeth yn lleol ar y fferm, o dyfu’r llysiau persawrus i gynaeafu, distyllu, cymysgu a phecynnu.
Pan oedd Lisa yn chwilio am gyngor a chymorth busnes, cysylltodd â Busnes Cymru i fod yn rhan o’u cynllun mentora. Rhoddwyd Lisa mewn cysylltiad â mentor a roddodd yr anogaeth a’r hyder iddi wireddu ei busnes.
Ynglŷn â’i phrofiad â Busnes Cymru, dywedodd Lisa, “Gwnaeth Esther, fy mentor, wahaniaeth o’n cyfarfod cyntaf un, lle cefais fy annog ganddi i gredu yn fy marn fy hun, a rhoddodd yr hyder a’r ffocws i mi ddatblygu fy strategaethau marchnata a gwerthu. Cefais fy nghymell ganddi i gredu yn fy syniad a’m cynllun busnes a chynorthwyodd fi bob cam o’r ffordd drwy roi’r wybodaeth a’r offer priodol i ddatblygu fy nghynllun busnes.”
Yn Business in Focus, ein nod yw adnabod talent yma yng Nghymru a dathlu busnesau newydd Cymreig. Os ydych yn dyheu am ddechrau busnes, rydym yma i’ch cefnogi chi.