Ar yr olwg gyntaf arian am ddim yw grantiau, ond, fel arfer, bydd y darparwyr yn rhoi amodau i’r grant. Mae gan bob awdurdod cynnig unigryw iddyn nhw, a dyma rhai ohonnynt. Edrychwch ar wefan eich awdurdod chi am y sefyllfa mwyaf diweddar a’r cefnogaeth byddent yn cynnig. Gallen ni helpu gyda’r ymchwyliad hyn gan ein bod yn cadw cronfa ddata o Raglenni Cenedlaethol a Lleol.
Mae grant cicdanio Pen-y-Bont ar gael i fusnes neu fusnesau newydd yn eu blwyddyn cyntaf. Mae grantiau ar gael am rhwng £250 a £1000 ac yn cael arian cyfatebol hyd 50% o gost y prosiect. Dim ond eitemau cyfalaf sy’n gymwys. Ystyrir bob sector am y grant fusnes hon. Cewch fwy o wybodaeth yma.
Grant hyblyg yw’r Special Regeneration Fund (SRF) sy’n cynnig ffordd ariannu ‘wedi’i harwain gan y cwsmer’ i fusnesau bach a chanolig. Ystyrir prosiectau megis buddsoddiad mewn eitemau cyfalaf, meddalwedd arbennigol, adnewyddiad o safle busnes. Mae’r cyllid yn cynnig hyd 40% o gefnogaeth grant hyd £5,000 i gostau prosiect cytunwyd o flaen llaw. Minimwm y grant bydda £1,000. Cewch manylion llawn a gweld pwy sy’n addas fan hyn.
Am fwy o wybodaeth am grantiau busnes a chyllid busnes o Gyngor Bwrdreistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr cysylltwch â’r Uned Datblygu Economaidd ar Gyngor Pen-y-Bont 01656 815315 neu drwy ebost business@bridgend.gov.uk.
Mae cefnogaeth i fusnes yn hanfodol ar gyfer twf economaidd cynaliadwy yng Nghasnewydd yn y dyfodol. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gallu darparu cymorth ariannol i fusnesau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes i gynorthwyo gyda’r costau cymwys o ddechrau neu ehangu.
Mae cymorth ariannol ar ffurf cymorth grant ac mae ar gael yn gyfan gwbl yn ôl disgresiwn Cyngor Dinas Casnewydd. Cynigir cymorth grant yn unig le gellir dangos rheswm busnes gwirioneddol.
Mae’r gefnogaeth hon ar gael ar draws y ddinas, ond wedi’i dargedu tuag at ganol y ddinas sy’n parhau i fod yn flaenoriaeth adfywio i’r Cyngor.
Cysylltwch â Thîm Gwasanaethau Busnes Cyngor Dinas Casnewydd i drafod unrhyw un o’r grantiau. Anfonwch ebost business.services@newport.gov.uk neu ffoniwch 01633 656656.
Mae Grant Dechrau Busnes Caerffili yn un ddewisol ac yn gallu cynnig hyd at 50% o gostiau prosiectau cymwys hyd macsimwm o £500.
Grant hyblyg a ddarparir trwy bartneriaeth gyda UK Steel Enterprise Ltd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd.
Cynllunwyd i helpu trigolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd sefydlu busnes am y tro cyntaf, nad ydynt yn gallu dod ar draws unrhyw modd arall o ariannu y busnes.
Darparir Grant Dechrau Busnes Caerffili cefnogaeth ariannol i helpu busnesau cymwys datblygu a thyfu. Ystyrir busnesau o bob sector. Mae gofyn bod yr ymgeisydd yn sefydlu busnes yn Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Bydd angen i unrhyw fusnes sydd gyda diddordeb mewn ymgeisio am Grant Cefnogi Busnes , cysylltu â Thîm Cefnogaeth Menter Busnes. Am fwy o wybodaeth ewch i www.caerphilly.gov.uk/Business/Business-grants-and-funding/Caerphilly-business-start-up-grant neu ffoniwch 01443 866220.
Rhaglen Cefnogi Menter – Mae’r rhaglen grant hyblyg yma yn cynnig cymorth ariannol i busnesau newydd neu’n bodoli, preifat neu fentrau gymdeithasol sydd wedi eu cartrefi yn Rhondda Cynon Taf, neu sy’n bwriadu symud i’r bwrdeistref sirol.
Mae grantiau busnes ar gael i fentrau llawn-amser sy’n bodoli neu yn dechrau. Gallen helpu gyda phrynnu offer cyfalaf (yn cynnwys TG), gwella safleoedd masnachol, datblygu gwefan a costiau marchnata. Gall mentrau cymdeithasol elwa o gefnogaeth am ddatblygiad prosiect neu sefydliadol.
*Mae angen creu minimwm o un swydd llawn amser i fusnesau y sector preifat sy’n ymgeisio am grant hyd £5000. Codir hwn i dau swydd oriau llawn amser ar gyfer grantiau £10,000.
Am fwy o wybodaeth am ariannu busnes gyda Rhondda Cynon Taf, cysylltwch â thîm Cefnogaeth Menter ar 01443 495169 neu Regeneration@rctcbc.gov.uk.