Mewn rhai sefyllfaoedd dydy ariannu busnes trwy ddyled ddim yn addas. Yn y sefyllfa hon, efallai bydd y busnes angen buddsoddiad ecwiti. Gall buddsoddiad ecwiti fod yn breifat neu yn sefydliadol – o angel busnes neu o deulu a ffrindiau.
Mae sawl buddsoddwyr sefydliadol yng nghymru gan gynnwys Banc Datblygu Cymru.
Mae ecwiti preifat ar gael o angylion busnes, cwmnïau buddsoddi ac oddiwrth unigolion neu grwpiau o bobl trwy llwyfannau cyllid tyrfa neu o fuddsoddiad uniongyrchol.
Am gymorth gyda’ch ariannu ecwiti galwch 01656 868545 a gofynnwn un o’n cynghorwyr annibynnol eich cefnogi ar eich taith.
Mae Banc Datblygol Cymru yn helpu busnesau cael yr cyllid maen nhw’n ei angen er mwyn dechrau, cryfhau a thyfu. Mae arian ar gael ar gyfer busnesau ar bob lefel o dyfiant. Os rydych yn gymwys ac yn barod am fuddsoddiad, mae sawl optiwn gyda chi.
Mae swm yr arian ar gael rhwng £1,000 a £5miliwn gyda benthyciadau ac ecwiti ar gael. Gallech ad-dalu’r arian dros amser hyd at 10 mlynedd, sy’n rhoi amser a lle i chi gyrraedd eich potential.
Dros y 5 mlynedd nesaf, bydd y Banc yn buddsoddi dros £400miliwn. Hefyd bydd yn golygu bod cyllid meicro ar gael terirgwaith yn fwy. Pan ystyrir buddsoddiadau y sector breifat a’r cyllid sydd ar gael i perchenogion tai trwy Gymorth i Brynu – Cymru, nod y banc yw i gael dylanwad gwerth biliwn o bynnoedd ar economi Gymru.
Gall Banc Datblygu Cymru cynnig arian am ystod o bethau gan gynnwys:
• Dechrau busnes, gan gynnwys busnes technoleg
• Tyfu busnes
• Prynu busnes
Darganfod mwy ar developmentbank.wales