P’un eich bod yn dechrau neu’n tyfu busnes, mae angen arian ar bob busnes. Rydym yn gallu sicrhau y math cywir o noddiant i’ch busnes chi.
Ar gael drwy’r Cwmni Benthyciadau Cychwyn Busnes, is-gwmni i Fanc Busnes Prydain, ar gyfer entrepreneuriaid sy’n ceisio cychwyn busnes yng Nghymru, a’r rhai sy’n cynnal busnes llai na dwy flwydd oed.
Mae Benthyciadau Cychwyn Busnes, a weinyddir gan Fanc Busnes Prydain, yn gynllun a gefnogir gan y llywodraeth sy’n darparu benthyciadau ad-daladwy llog isel a chefnogaeth fusnes yn rhad ac am ddim, ar gael i unigolion dros 18 oed sydd â busnes hyfyw ond heb fynediad at gyllid. Mae’r cynllun yn ariannu busnesau ym mhob sector. Yn ogystal â chymorth ariannol mae pob derbynnydd benthyciad yn cael mynediad at gynghorydd, digwyddiadau hyfforddiant rhad ac am ddim a chynigion busnes unigryw.
Mae Business in Focus Limited yn frocer credyd cymeradwy sy’n gweithredu o dan drwydded gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Rhif Cofrestru Cwmni 2553654.
Boed yn llwyddiannus ai peidio, ni chodir ffi arnoch am wneud cais Benthyciad Cychwyn Busnes. Os codwyd ffi arnoch, rhowch wybod i’r Cwmni Benthyciadau Cychwyn Busnes neu ysgrifennwch at hello@startuploans.co.uk gyda’r manylion.
Pan fyddwch chi’n gwneud cais am fenthyciad, bydd eich cais yn cael ei asesu’n unigol yn seiliedig ar y wybodaeth rydych yn ei darparu, gwiriad creded a gafwyd gan Asiantaeth Cyfeirio Credyd a’n polisi credyd mewnol. Fel benthyciwr cyfrifol, mae’r Cwmni Benthyciadau Cychwyn Busnes, is-gwmni i Fanc Busnes Prydain, wedi ymrwymo i sicrhau bod unrhyw gynnig benthyciad a wneir yn fforddiadwy. Bydd eich hanes credyd o ganlyniad yn cael ei ystyried yn ogystal â’ch sefyllfa ariannol ar hyn o bryd. Pan fydd cais yn cael ei wrthod byddwn yn rhoi gwybod i chi pam nad oedd eich cais yn gallu cael ei gymeradwyo.
Mae Ultimate Finance yn darparu'r cyllid hygyrch sydd ei angen ar Fusnesau Bach a Chanolig y DU i lwyddo. Maent yn cefnogi busnesau drwy sicrhau cyllid yn gyflym, yn hyblyg ac yn deg. Mae eu portffolio unigryw o gynhyrchion yn eu galluogi i lunio atebion sy'n bodloni anghenion eu cwsmeriaid a'u harbed rhag y cur pen sy'n gysylltiedig â sicrhau cyllid.
Grantiau Dechrau Busnes Ar Gael O Gyngor Abertawe
Grant hyblyg yw hon a ddarparir drwy bartneriaeth rhwng UK Steel Enterprise Ltd a Chyngor Dinas a Sir Abertawe.
Gallech wneud cais os rydych yn busnes newydd: naill ar fin ddechrau neu wedi dechrau o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae rhaid bod eich busnes wedi ei leoli yn ardal Dinas a Sir Abertawe.
Cyllid Busnes Ar Gael O Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-Y-Bont Ar Ogwr
Cicdaniad - ar gael i fusnes neu fusnesau newydd yn eu blwyddyn cyntaf. Mae grantiau ar gael am rhwng £250 a £1000 ac yn cael arian cyfatebol hyd 50% o gost y prosiect. Dim ond eitemau cyfalaf sy’n gymwys. Ystyrir bob sector am y grant fusnes hon.
Mae Banc Datblygu Cymru yn helpu busnesau cael yr arian maen nhw angen i ddechrau, cryfhau a thyfu. Mae arian ar gael i fusnesau yn mhob cam o’u datblygiad. Os ydych yn gymwys ac yn barod am fuddsoddiad, mae gennych lawer o opsiynnau.
Grantiau Cyngor Dinas Casnewydd
Mae grantiau o £1,500 ar gael oddiwrth Cyngor Dinas Casnewydd a UK Steel Enterprise i fusnesau ar fin ddechrau ac i fusnesau hyd flwydd oed.
Grantiau Cefnogi Busnes Ar Gael O Gyngor Caerffili
Mae Grant Dechrau Busnes Caerffili yn un ddewisol ac yn gallu cynnig hyd at 50% o gostiau prosiectau cymwys hyd macsimwm o £500.
Cymorth Ariannol i Busnesau Ar Gael Yn Rhondda Cynon Taf
Grant Menter i Fusnesau – Mae’r grant hyblyg hon yn darparu cymorth ariannol i fentrau preifat a chymdeithasol newydd neu sy’n eisioes yn bodoli sydd wedi eu lleoli yn Rhondda Cynon Taf, neu sy’n bwriadu symud i mewn i’r Fwrdeistref Sirol.
Hawlfraint Busnes Mewn Ffocws 2020