Beth allai busnes ei wneud i ddod yn 'wyrddach' petaent yn cael £5,000 i dalu am welliannau? Mae Dyfodol Ffocws yn ceisio dod o hyd i'r ateb!
I annog busnesau newydd neu rhai sy'n meddwl cychwyn busnes i feddwl am eu hôl troed carbon ac effaith amgylcheddol, mae Dyfodol Ffocws yn rhoi cyfle i bobl dderbyn gwobrau gwerth cyfanswm o £20,000.
Nod y fenter yw annog 'meddwl gwyrdd' a chynorthwyo busnesau newydd i gyrraedd Nod Werdd.Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y wobr hon, mae'n rhaid ichi gael syniad am fusnes neu'n fusnes iau na dyflwydd oed.Bydd busnesau newydd yn y safle cyntaf yn derbyn gwobr werth £5,000, yr ail safle yn cael £2,000 a bydd 13 arall yn derbyn gwobr o £1,000 yr un.
Gall gwneud eich busnes yn wyrddach eich cynorthwyo i sicrhau gwobr ac fe allwn roi mynediad i weminarau a digwyddiadau ichi a fydd yn eich arfogi gyda'r sgiliau i ddatblygu eich busnes, cymorth rhad ac am ddim, a chyfleoedd i rwydweithio a chysylltu gydag unigolion eraill sy'n meddwl yr un fath â chi.
Mae Business in Focus yn falch o ddarparu Dyfodol Ffocws, prosiect sy'n creu rhan o Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU. Datblygwyd y prosiect hwn i fod o gymorth i bobl leol ddatblygu eu sgiliau a'u hyder er mwyn mynd â'u gweithgareddau entrepreneuraidd yn eu blaen. Mae Dyfodol Ffocws yn darparu cymorth ac arweiniad i bobl sy'n awyddus i ddechrau busnes eu hunain, sy'n ceisio cymorth ariannol a darparu hyfforddiant ac arweiniad un i un.
Y dyddiad olaf i wneud cais er mwyn sicrhau gwobr yw Gorffennaf 1af, 2022. Os ydych chi'n gymwys neu'n adnabod rhywun sy'n gymwys ar gyfer y wobr, e-bostiwchGreenGoal@businessinfocus.co.uk neu ffoniwch 01656 868502 i anfon cais atom.
Hawlfraint Busnes Mewn Ffocws 2020