Busnes o Sir Benfro yn Cynnal y Siop Fflach Gyntaf yn Hwlffordd

18/11/22

Ar ôl llwyddiant eu siop yn Noc Penfro, bydd The Pembrokeshire Pet Bakery yn agor siop fflach yng Ngofod a Rennir Hwlffordd tan 21 Tachwedd.

A ydych chi’n chwilio am anrheg Nadolig ar gyfer eich cyfaill pedair coes? O fisgedCi wedi’u personoleiddio i gaCenau, Wyfflau i Fow-wownyts, mae Ali a Kel, dwy chwaer yng nghyfraith, yn dod â’r Pembrokeshire Pet Bakery i Hwlffordd am y tro cyntaf.

Wedi’i lansio yn 2021, mae Ali a Kel yn creu danteithion blasus sy’n llawn hwyl a maeth ar gyfer anifeiliaid anwes, ac mae’r hyn a ddechreuodd gyda ffrindiau’n gofyn iddynt greu gwahanol gacennau a melysion ar gyfer eu cyfeillion pedair coes, bellach wedi tyfu i fod yn fusnes llwyddiannus, gyda chwsmeriaid ledled y DU.

Bydd Ali a Kel yn y siop fflach yng Ngofod a Rennir Hwlffordd tan 21 Tachwedd, felly bydd rhaid ichi fachu eich anrhegion wedi’u gwneud ymlaen llaw a’ch danteithion Nadoligaidd yn chwim. Ond byddant yn ôl eto rhwng 12-23 Rhagfyr. Byddant yn cynnal arddangosiadau sut i roi eisin ar fisgedi ar 17 Rhagfyr, lle cewch gyfle i addurno danteithion i fynd adref gyda chi ar gyfer eich ci. Bydd bisgedi siâp asgwrn i gŵn, eisin sy’n ddiogel i’ch anifeiliaid anwes ei fwyta, a chnau coco lliwgar ichi addurno eich danteithion wedi’u personoleiddio eich hun ar gael ar y diwrnod.

Dyma oedd gan Gareth Thomas, Dirprwy Reolwr Cymunedol Gofod a Rennir Hwlffordd, i’w ddweud am y siop fflach arfaethedig:

“Yr hyn sy’n braf am ein huned fasnach yw ein bod yn cael gweld amrywiaeth o fusnesau’n ymuno â ni drwy gydol y flwyddyn, ac mae’n wych croesawu Ali a Kel o The Pembrokeshire Pet Bakery wrth i ni ddechrau ar ein dathliadau Nadolig. Gyda llu o arddangosiadau rhyngweithiol a sesiwn tynnu lluniau anifeiliaid anwes moethus, dyma gyfle gwych ichi sbwylio eich ci gyda danteithion Nadoligaidd a lluniau proffesiynol. Dewch draw i Gei Glan yr Afon i ymuno â nhw fis Tachwedd a mis Rhagfyr.”

Am ragor o wybodaeth, cymerwch gip ar eu tudalen cyfryngau cymdeithasol neu anfonwch e-bost at pembspetbakery@gmail.com.


Wedi’i leoli yng Nghei Glan yr Afon, nod Gofod a Rennir Hwlffordd yw creu a chefnogi cymuned fusnes gadarn ac mae’n cynnig cyfleoedd profi masnach, cymorth busnes un i un, gweithdai ymgysylltu, cyfleusterau cyd-weithio ac ystafelloedd cyfarfod.

Ariennir Gofod a Rennir Hwlffordd gan Gynllun Cam 2 Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru, a weinyddir gan CGGC. Mae Business in Focus yn cyflwyno’r prosiect hwn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro.