Yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl eleni, mae Busnes mewn Ffocws yn dathlu derbyn achrediad Aur, Rydym yn Buddsoddi mewn Llesiant Buddsoddwyr mewn Pobl.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ddigwyddiad blynyddol sy’n rhoi cyfle i’r DU gyfan canolbwyntio ar gyflawni iechyd meddwl da, ac mae’n gyfle i addysgu a chodi ymwybyddiaeth am lesiant meddyliol.
Mae achrediad Aur mewn llesiant yn dangos bod Busnes mewn Ffocws yn cymryd iechyd meddwl da o ddifrif. Mae’r dyfarniad yn cydnabod bod gan y busnes strategaeth lesiant gadarn ar waith, y mae’r holl gydweithwyr yn amlwg yn ei chefnogi, a bod y busnes yn cynnig cyfleoedd i bobl weithio a chymdeithasu, yn ogystal â chynnig cymorth a dealltwriaeth o anghenion iechyd meddwl.
Mae'r Dyfarniad Aur yn rhoi Busnes mewn Ffocws ymysg yr ychydig iawn o sefydliadau sydd wedi ennill dau achrediad Aur; Buddsoddwyr mewn Pobl yn ogystal â Buddsoddwyr mewn Llesiant Pobl.
Ar adeg asesu Busnes mewn Ffocws, roedd y busnes yn:
Wrth sôn am y dyfarniad, dywedodd Phil Jones, Prif Weithredwr Busnes Mewn Ffocws:
“Mae’n gyflawniad arbennig. Roedd y dyfarniad yn gofyn am waith caled, roedd hi’n broses hir, ac roedd yn rhaid inni fodloni nifer o ofynion er mwyn cael ein cymeradwyo ar hyd y ffordd.
Yn bwysicach na dim, yn sail i’r holl waith, mae’r dyfarniad, heb os, yn adlewyrchu ein diwylliant ni fel sefydliad, sy’n un bywiog, uchelgeisiol, iach, gofalgar, cydymdeimladol, heriol, a chefnogol.
Dyma’r tro cyntaf i Busnes mewn Ffocws ennill y gydnabyddiaeth hon mewn Llesiant, ac mae’n gwbl wych, ac mae’r diolch yn mynd i bob un o’n gweithwyr.”
Dywedodd Paul Devoy, Prif Weithredwr Buddsoddi mewn Pobl:
“Hoffem longyfarch Busnes mewn Ffocws. Mae achrediad aur ar Rydym yn buddsoddi mewn llesiant yn ymdrech wych i unrhyw sefydliad, ac yn rhoi Busnes mewn Ffocws mewn cwmni arbennig ymysg llu o sefydliadau sy'n deall gwerth pobl.
Rydym yn credu bod llwyddiant eich busnes chi’n dechrau ac yn gorffen gyda phobl. Os ydym yn gwella gwaith i bawb, rydym yn gwella gwaith i bob sefydliad. Ac os ydym yn gwneud hynny... rydym yn meithrin cymdeithas gryfach, iachach a hapusach.”
16
Mehefin
2022
|
30
Mai
2022
|
25
Mai
2022
|
24
Mai
2022
|
23
Mai
2022
|
16
Mai
2022
|
13
Mai
2022
|
30
Mawrth
2022
|
21
Ionawr
2022
|
21
Rhagfyr
2021
|
Hawlfraint Busnes Mewn Ffocws 2020