Business in Focus yn Lansio Ymgyrch Cynhwysiant Digidol Newydd
16/11/22
16/11/22
Gall perchnogion microfusnesau sy’n chwilio am gymorth a hyfforddiant i fynd ar-lein nawr wneud cais am werth dros £1000 o hyfforddiant ac offer, diolch i becyn cymorth digidol newydd a lansiwyd gan Business in Focus trwy ei brosiect Dyfodol Ffocws. Er, mae angen i chi fod yn gyflym, gan fod ceisiadau’n cau ar 25 Tachwedd.
Mae’r pecyn ‘Cysylltu Digidol gyda Chymorth’ wedi’i ddylunio ar gyfer y rhai â microfusnesau sydd wedi wynebu rhwystrau sydd wedi eu hatal rhag symud ar-lein, gydag ymgeiswyr yn cael y cyfle i dderbyn hyd at £995 i brynu offer, yn ogystal â £500 ar gyfer hyfforddiant neu gymorth.
Gellir defnyddio’r pecyn hyfforddiant hwn ar gyfer popeth o sgiliau cyfrifo a busnes, i hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol a datblygiad busnes. Ar gyfer y rhai sydd angen offer TG i’w helpu gyda’u taith ddigidol, gall y £995 fynd tuag at offer busnes fel gliniadur, bwrdd gwaith neu ffôn symudol.
Dywedodd Phil Jones, Prif Weithredwr Business in Focus:
“Mae’n destun cyffro i ni fod wedi lansio’r ymgyrch cynhwysiant digidol a fydd yn darparu cymorth i fasnachwyr unigol a busnesau bach ac yn eu helpu i fynd yn ddigidol. Drwy’r ymgyrch hon, rydym eisiau gallu helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau a phrynu offer addas i allu cyflwyno eu busnesau ar blatfform digidol.”
Gallwch anfon e-bost i FocusFutures@businessinfocus.co.ukneu ffonio 01656 868502 am fwy o wybodaeth ac i wneud cais am y pecyn ‘Cysylltu Digidol gyda Chymorth’. Os ydych yn ficrofusnes, yn fasnachwr unigol neu’n adnabod rhywun sy’n rhedeg busnes bach, sicrhewch eich bod yn bachu ar eich cyfle i dderbyn offer a hyfforddiant gan y pecyn cymorth digidol.
Mae Dyfodol Ffocws yn brosiect a gyflwynir gan Business in Focus sy’n ffurfio rhan o Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU. Datblygwyd Dyfodol Ffocws i gefnogi pobl leol i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder er mwyn rhoi hwb i’w diddordebau entrepreneuraidd.