Yn ddiweddar, mae Business in Focus wedi ennill y contractau i gyflwyno Cronfa Adfywio Cymunedol y DU mewn 13 ardal cyngor lleol. Mae’r gronfa’n cynnwys £220 miliwn o fuddsoddiad ar draws y DU i helpu i dreialu syniadau newydd a llunio dyfodol cronfa Ffyniant Cyffredin y DU a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni.
Gan gefnogi’r bobl a’r cymunedau mwyaf anghenus ar draws y DU, nod y peilot yw creu cyfleoedd i dreialu dulliau newydd a syniadau arloesol sy’n ymateb i heriau lleol ac anghenion lleol. Nod y prosiect yw cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau, datblygu sgiliau entrepreneuraidd, annog meddwl “gwyrdd” a meithrin yr hyder i ystyried hunangyflogaeth.
Dywedodd Phil Jones, Prif Weithredwr Business in Focus:
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y contractau cyffrous hyn ac i gael y cyfle hwn i gefnogi cymaint o Awdurdodau Lleol. Bob blwyddyn, mae Business in Focus yn helpu miloedd o bobl ledled Cymru i fod yn hunangyflogedig neu i ddechrau eu busnes eu hunain, felly rydym mewn sefyllfa dda i gyflawni’n gryf ar y prosiectau hyn. Mae gennym Gynghorwyr Busnes profiadol a fydd yn gweithio ar sail un-i-un gydag unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael ein cymorth, i adeiladu eu hyder, datblygu syniadau a chynlluniau, a chyflwyno rhwydweithiau cymorth cymheiriaid ar gyfer cymorth tymor hwy.”
Yn ogystal â chynnig cyfle gwirioneddol i “ail-godi’n gryfach” yn dilyn y pandemig, mae’r cynlluniau peilot yr ydym yn eu cyflawni yn cyd-fynd â blaenoriaethau buddsoddi Llywodraeth y DU. Mae hyn yn golygu, yn ogystal â buddsoddiadau ar gyfer busnesau lleol, ein bod yn cefnogi pobl i mewn i gyflogaeth gyda nifer o swyddi newydd wedi’u creu o fewn Business in Focus yn benodol ar gyfer y contractau hyn.
Dywedodd Andrea Wallbank, Rheolwr Adnoddau Dynol:
“Mae gweithio ar draws 13 awdurdod lleol gwahanol yn rhoi cyfle gwych i ni greu bron i 50 o swyddi ar gyfer pobl ledled Cymru sy’n chwilio am waith yn y sector cyngor a chymorth busnes. Rydym bob amser yn parhau i ddatblygu ein rhwydwaith cymorth busnes, felly rydym yn gwahodd ceisiadau gan bobl sydd â’r sgiliau i gefnogi’r prosiectau hyn.”
I gael gwybod mwy am y swyddi gwag sydd gennym ewch i:Ymunwch a'r tim
Os hoffech fanteisio ar y gwasanaethau yn yr ardaloedd cyflenwi anfonwch e-bost i: enquiries@businessinfocus.co.uk
16
Mehefin
2022
|
30
Mai
2022
|
25
Mai
2022
|
24
Mai
2022
|
23
Mai
2022
|
16
Mai
2022
|
13
Mai
2022
|
30
Mawrth
2022
|
21
Ionawr
2022
|
21
Rhagfyr
2021
|
Hawlfraint Busnes Mewn Ffocws 2020