Mae dechrau busnes newydd yn heriol, yn enwedig pan mae angen codi arian arnoch chi. Mae Benthyciadau Dechrau Busnes ar gael ar gyfer entrepreneuriaid sy'n bwriadu cychwyn busnes yng Nghymru. Mae Busnes mewn Ffocws yn Bartner Cyflawni’r cynllun Benthyciadau Dechrau Busnes ac yn gallu bod o gymorth i chi wrth wneud cais am Fenthyciad Dechrau Busnes.
Bydd ein tîm profiadol ar gael i'ch cefnogi drwy gydol blwyddyn gyntaf taith eich busnes. Os oes angen i chi ddeall beth yw cynllun busnes a sut i ddechrau gydag un, os ydych angen cymorth er mwyn marchnata eich busnes, neu bod angen i chi drafod syniad, cyfle neu her yn unig, mae ein tîm cyfeillgar ar ben arall y ffôn ar eich cyfer er mwyn trafod a datblygu eich hyder.
Adnoddau i'ch helpu gyda'ch Benthyciad Dechrau Busnes
Oes gennych chi gwestiwn? Am ragor o wybodaeth a chymorth gyda Benthyciadau Dechrau Busnes cwblhewch y ffurflen ymholiadau isod neu rhowch alwad i ni heddiw!
Cwblhewch y ffurflen fer isod gyda'ch manylion a bydd un o'n hymgynghorwyr mewn cysylltiad cyn bo hir....
Caiff ceisiadau eu hasesu ar sail unigol ac nid oes modd gwarantu eich bod wedi cael eich derbyn nes ichi dderbyn, llofnodi a dychwelyd y dogfennau gan y Partner Cyllid a bod yr arian wedi’i drosglwyddo i’ch cyfrif.
Mae cwmni Start Up Loans wedi sicrhau cynigion gwych i fusnesau, nad ydynt ar gael ond i’r sawl sy’n cael benthyciadau gan y cwmni i gychwyn busnes. Mae’r cynigion hyn yn fodd i gael nifer o nwyddau a gwasanaethau busnes am bris rhatach ac yn sicrhau bod entrepreneur yn cael llawer o’r adnoddau sy’n angenrheidiol i gychwyn busnes yn llwyddiannus. I weld sut y gallai’r cynigion hyn fod o fudd i’ch busnes chi ac i fanteisio arnynt, ewch i
Am fwy o fanylion am Benthyciadau Dechrau Busnes cysylltwch â ni ar 01656 868545 neu ebost:
Brocer credyd cymeradwy sy’n gweithredu dan drwydded oddiwrth Financial Conduct Authority. Rhif Cofrestru Cwmni 2553654. Ni fydd tâl am y gwasanaeth hwn, boed yn llwyddiannus neu beidio. Os rydych wedi gorfod talu, yna cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes, yn is-gwmni Banc Busnes Prydain, neu ysgrifennwch i hello@startuploans.co.uk gyda’r manylion. Pan rydych yn ymgeisio am fenthyciad, asesir eich cais mesul un yn ôl y manylion rydych yn cyflwyno, gwiriad credyd o’r Credit Reference Agency ac ein polisi credyd mewnol. Fel benthycwr cyfrifol, Start Up Loan Company yn ymroddedig i wneud yn sicr bod unrhyw gynnig benthyciad yn fforddiadwy. Ystyrier felly eich hanes credyd ac eich sefyllfa ariannol ar hyn o bryd. Os dydych cais ddim yn llwyddiannus, bydden ni’n rhoi wybod i chi nad oedd yn llwyddiannus.Hawlfraint Busnes Mewn Ffocws 2020