Mae Business in Focus wedi penodi saith aelod newydd ar ei fwrdd anweithredol er mwyn helpu i ysgogi ei gynllun pum mlynedd ar gyfer datgloi potensial entrepreneuraidd y genedl.

Mae’r penodiadau newydd yn cynnwys Anthony Couzens, cyfarwyddwr cydberthnasau yn HSBC – Bancio Corfforaethol; Bernie Davies, entrepreneur, siaradwr TEDx  a hyrwyddwr amrywiaeth; Pete Burnap, Athro gwyddorau data a seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd; Ben Burggraaf, prif weithredwr Diwydiant Sero Net Cymru; Jill Gorrin, uwch-swyddog adfywio sydd wedi ymddeol a arferai weithio i Gyngor Bro Morgannwg; Siân Jones, cyfarwyddwr materion cyhoeddus o Grayling; a David James, cyn-gyfarwyddwr ariannol Hodge Bank a phrif swyddog ariannol Moto Novo Finance.

Fel menter gymdeithasol, mae Business in Focus wedi cynorthwyo i sefydlu a datblygu busnesau yng Nghymru ers mwy na 30 mlynedd. Mae ei bortffolio’n cynnwys darparu Busnes Cymru, sef un o wasanaethau blaenllaw Llywodraeth Cymru, sy’n defnyddio cyfres o wasanaethau cymorth busnes i gynnig cyngor arbenigol ynglŷn â phynciau o bob math, yn cynnwys cyllid, anghenion o ran eiddo a sicrhau bod hyfforddiant sgiliau’n hygyrch i entrepreneuriaid ledled Cymru.

Hefyd, mae’r sefydliad yn landlord pwysig ac mae ganddo bortffolio o 19 eiddo trwy’r wlad, gan ddarparu adeiladau i bron i 500 o fusnesau tenant.

Dyma a ddywedodd Phil Jones, Prif Weithredwr Business in Focus, am y penodiadau: “Braint enfawr yw croesawu pobl mor wych i ymuno â’n tîm anweithredol. Mae pob un ohonyn nhw’n arbenigwyr yn eu maes, maen nhw’n cynnig craffter entrepreneuraidd, maen nhw’n ehangu ein hamrywiaeth gwybyddol ac maen nhw’n meddu ar brofiad bywyd toreithiog.

“Bydd eu cefnogaeth yn cyflymu ein strategaeth bum mlynedd uchelgeisiol i adeiladu ar ein llwyddiannau a chynyddu’r cyfleoedd lu sydd gennym i ddatgloi potensial entrepreneuraidd a chyfoethogi bywydau ble bynnag y gallwn.” Bydd yr aelodau newydd yn ymuno â bwrdd sydd eisoes yn uchel ei fri: Victoria Fisher, rheolwr busnes ardal ar gyfer Grŵp Bancio Lloyds; Robert James, ymgynghorydd ar gyfer Cyfreithwyr Geldards; Jennifer Jones, perchennog MDJ Law ac un o bartneriaid y cwmni; Geraint Evans MBE, cadeirydd corfforaethol Coleg Caerdydd a’r Fro; a Rhys Williams, rheolwr busnes masnachol NatWest. Caiff y bwrdd ei gadeirio gan David Stevens CBE, cyd-sylfaenydd Admiral, ochr yn ochr â’r is-gadeirydd Nicola McNeely, partner masnachol a phennaeth technoleg yng Nghyfreithwyr Harrison Clark Rickerbys.