Ar ôl pedair blynedd lwyddiannus iawn yn cefnogi busnesau newydd yng Nghaerfyrddin a’r Drenewydd, mae’n destun tristwch i ni gyhoeddi ein bod yn oedi gweithrediadau yn Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin a Hwb Menter Ffocws y Drenewydd.
Wedi’i lansio yn 2019 fel rhan o raglen Busnes Cymru, mae’r rhaglen Hwb Menter wedi bod wrth galon gweithgarwch entrepreneuraidd yn y cymunedau lleol, gan greu dros 200 o swyddi a buddsoddi dros £500,000 mewn mentrau lleol.
Yn fwy diweddar ac yn sgil yr arferiad o weithio o bell, agorodd ein Hybiau Menter ofod ychwanegol i greu cyfleusterau cydweithio, rhwydweithio a llogi ystafelloedd fel bod gan y rhai nad oes ganddynt swyddfa, rhai sydd angen ystafell gyfarfod neu sydd wedi sefydlu busnesau ac yn chwilio am leoedd gweithio o bell i’w timau, leoliad lleol i weithio ynddo.
Dywedodd Holly Jones, Rheolwr Hwb Menter Ffocws y Drenewydd:
“Rydym wedi cyflawni pethau anhygoel yn yr Hwb dros y pedair blynedd diwethaf. O’n lansiad yn ôl yn 2019, i symud ar-lein i barhau i gefnogi entrepreneuriaid drwy’r pandemig, cynnal ein Marchnadoedd Nadolig a’n Marchnadoedd Gwanwyn, ein cyfres gynhadledd Ganddi’r Gallu i Gychwyn i ysbrydoli mwy o ferched i gychwyn busnes, a gwylio busnesau yn lansio, ffynnu a thyfu yn sgil yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Hoffa’r tîm cyfan ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac rydym yn edrych ymlaen at weld beth sydd i ddod yn y dyfodol.”
Dywedodd Cathrin Jones, Uwch Gydlynydd Hwb yn Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin:
”Ers ein hagoriad gyda Lee Waters AS yn 2019, mae ein gwaith yng Nghaerfyrddin wedi bod yn ddi-baid. Rydym wedi cael popeth o sesiynau rhwydweithio ar droed a sioeau teithiol, i brofion masnachu a siopau Nadolig dros dro. Mae ein Hwb yng nghanol Rhodfa Santes Catrin wedi rhoi lle gwych i bobl gydweithio, cwrdd a rhwydweithio.”
Ychwanegodd Phil Jones, Prif Weithredwr Business in Focus:
”Mae’r Hybiau Menter ledled Cymru wedi bod yn gymaint o lwyddiant ac maent wedi bod yn allweddol i ddod â chyngor a chymorth busnes i ardaloedd mwy gwledig. Mae’r Hwb Menter wedi rhoi cymorth sylweddol i entrepreneuriaid cyn y pandemig, yn ystod y pandemig ac ar ôl y pandemig, gyda sylfaen gref yn y gymuned leol. Mae’r cyfleusterau cydweithio gwych a’r ystafell gyfarfod wedi bod ar gael i’r rhai sy’n awyddus i symud oddi wrth weithio gartref yn llawn amser, a’r rhai sy’n lansio eu busnes ac sydd angen cyfeiriad i weithio ynddo.”
Wedi’i ariannu drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, daeth y contract ar gyfer Hybiau Menter wyneb yn wyneb i ben ar 31 Mai, 2023. Fodd bynnag, gall darpar entrepreneuriaid a pherchnogion busnes ledled Cymru barhau i gyrchu cyngor, cymorth a gwasanaethau wedi’u hariannu’n llawn gan Busnes Cymru yn uniongyrchol drwy eu gwefan: businesswales.gov.wales/cy.
Mae Business in Focus yn gweithio’n galed i sicrhau ffrydiau cyllid newydd i ganiatáu i’r Hybiau Menter Ffocws fod ar agor unwaith eto.