Ailbenodi’r Prif Weithredwr ar y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Cymdeithasol
03/02/23
03/02/23
Mae’r newyddion wedi’i gyhoeddi bod Prif Weithredwr Business in Focus, Phil Jones, wedi’i ailbenodi ar y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Cymdeithasol. Hwn fydd ail dymor Phil, a bydd yn rhedeg o 1 Chwefror 2023 tan 31 Gorffennaf 2024.
Ar ôl cael ei ailbenodi, dywedodd Phil:
“Rwyf mor falch o fod wedi cael fy ailbenodi ar y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Cymdeithasol. Mae cynrychioli Cymru wrth graffu ar bolisi llesiant Llywodraeth y DU wir yn fraint. Fel Prif Weithredwr menter gymdeithasol flaenllaw fel Business in Focus, mae’r rôl hon hefyd yn fy ngalluogi i gynnig safbwynt busnes wrth i’r pwyllgor asesu’r holl ffactorau denu ac annog wrth gael pobl mewn gwaith.”
Mae’r Pwyllgor yn gorff cynghori annibynnol o’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Ychwanega Phil:
“Mae fy nghydweithwyr ar y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Cymdeithasol i gyd yn arbenigwyr mewn meysydd fel treth, anabledd, hawliau dinasyddion, ac wrth gwrs, y polisi llesiant ei hun. Oherwydd hynny, bob tro rydym yn cwrdd mae yna gyfle i ddysgu.”
I ddysgu mwy am waith y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Cymdeithasol, ewch i https://www.gov.uk/government/organisations/social-security-advisory-committee