AFC Hwlffordd yn lansio siop dros dro yn Gofod a Rennir Hwlffordd

15/08/22

AFC Hwlffordd yn lansio ‘Y Nyth’ – siop un stop i gefnogwyr, busnesau ac aelodau o’r gymuned gael gwybodaeth am raglen gymunedol y clwb yn Gofod a Rennir Hwlffordd!

Bydd Y Nyth yn cael ei lansio ddydd Sadwrn, 13 Awst gydag agoriad swyddogol yn dechrau am 10.30am yn y siop dros dro yn y Gofod a Rennir yn Hwlffordd, sydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Siopa Riverside. Bydd y digwyddiad, sy’n rhan o Ddiwrnod o Hwyl i’r Teulu gan Siopa Riverside, yn arddangos beth sydd gan y Clwb i’w gynnig i bobl Sir Benfro ar y cae chwarae ac oddi ar y cae.

Dyma oedd gan Gareth Thomas, Cydlynydd Hwb Menter ar gyfer Gofod a Rennir Hwlffordd, i’w ddweud am y lansiad:

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu AFC Hwlffordd i’n huned brofi masnach. Mae’r gwaith mae’r clwb wedi ei wneud i fod o gymorth i gymunedau ledled y rhanbarth yn wych; maent yn ysbrydoli a chefnogi ieuenctid gyda’r sgiliau allweddol sydd eu hangen arnynt i ffynnu a llwyddo. Bydd “Y Nyth” yn gyfle gwych i’r clwb ymgysylltu â’r bobl leol drwy brofi model canolfan gymunedol i arddangos y gwaith da a gyflawnir ganddynt, ac i’r gymuned gymryd rhan yn y gweithgareddau a phrosiectau mae’r clwb yn eu hwyluso. Edrychwn ymlaen at weld beth sydd i ddod dros yr wythnosau nesaf a gobeithio y bydd y cyfle i brofi masnach yn eu galluogi i edrych ar opsiynau mwy parhaol ar gyfer canol y dref yn y dyfodol.”

Bydd AFC Hwlffordd yn y Gofod a Rennir yn Hwlffordd tan ddiwedd mis Hydref, ble maent yn bwriadu defnyddio’r lle i ddatblygu cysylltiad gyda phobl Sir Benfro a darparu cyfle i’r gymuned leol gymryd rhan ym mhrosiectau AFC Hwlffordd i fod o gymorth gyda datblygiad a thwf y clwb.

Dywedodd Wyndham Williams, Rheolwr Datblygu Cymunedol AFC Hwlffordd cyn y lansiad ddydd Sadwrn:

“Fe fydd y prosiect newydd cyffrous hwn yn siop un stop i gefnogwyr, busnesau ac aelodau o’r gymuned gael gwybodaeth am raglen gymunedol y clwb, gan ddarparu cyfle i gymryd rhan a chefnogi datblygiad a thwf y clwb yn y dyfodol. Bydd hefyd yn lle i bobl ymweld ag o a phrynu cynnyrch marchnata’r clwb, gan gynnwys mygiau a lluniau gan That Football Drawing. Mae’n wych gweithio gyda Business in Focus i dreialu’r prosiect newydd yn y dref.”

Nod Gofod a Rennir Hwlffordd yw creu a chefnogi cymuned fusnes ac mae’n cynnig cymorth busnes un i un, gweithdai diddorol, cyfleoedd profi masnach, cyfleusterau cyd-weithio  ac ystafelloedd cyfarfod. Byddwn ar agor ar ddiwrnod lansio Y Nyth a Diwrnod Hwyl i’r Teulu Siopa Riverside, felly galwch heibio, cymerwch gip ar ein lle cyfarfod a chydweithio a dysgwch fwy am ein cyfleusterau.

Ariennir Gofod a Rennir Hwlffordd gan Gynllun Cam 2 Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru, a weinyddir gan CGGC.  Mae Business in Focus yn cyflwyno’r prosiect hwn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Benfro.