Gwasanaeth Swyddfa Gofrestredig

Yn chwilio am ffordd fforddiadwy a phroffesiynol o dyfu eich busnes?

Mae ein pecynnau swyddfa ar-lein yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr llawrydd, hunangyflogedig a chontractwyr sy’n chwilio am ffordd fodern o weithio’n hyblyg ac ymarferol.

Bydd eich man swyddfa ar-lein yn galluogi’ch busnes i greu delwedd broffesiynol, heb y gost ychwanegol o gael cyfeiriad swyddfa penodol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi symud eich busnes i’r lefel nesaf, a dod yn fwy gweladwy i gleientiaid posib drwy eich man swyddfa ar-lein.

Fel rhan o becyn swyddfa ar-lein, bydd eich holl bost yn cael ei dderbyn a’i storio hyd nes eich bod yn barod i’w gasglu, neu gellir ei anfon ymlaen atoch chi*. Gallwch hefyd fwynhau defnyddio ystafelloedd cyfarfod a chynadledda – defnyddiol ar gyfer cwrdd â chleientiaid presennol a newydd.

Gwnewch wahaniaeth i’ch busnes drwy ymestyn i leoliadau newydd, gyda’r cyfan yn cychwyn o £35 y mis.

Mae’r Gwasanaeth Swyddfa Ar-lein yn cynnwys:

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn ein safleoedd canlynol: Bae Caerdydd, Abertawe, Trefforest a Thondu.

Os oes gennych ddiddordeb yn y gwasanaeth hwn, cysylltwch â’n tîm Eiddo, neu fel arall, cwblhewch y ffurflen gais hon.

*ffioedd postio’n berthnasol